Amdanom ni

Côr CF1 yw un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae llwyddiannau’r côr yn cynnwys nifer o wobrau mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol a chanu gydag artistiaid byd enwog. Mae’r côr hefyd wedi perfformio mewn rhai o leoliadau mwyaf godidog y byd yn cynnwys Trinity Church Efrog Newydd, Cadeirlan Köln yn yr Almaen a Basilica St. Mark’s yn Fenis.

Ers ei sefydlu yn 2002, dan arweiniad Eilir Owen Griffiths, mae CF1 wedi datblygu o fod yn aelwyd i un o brif gorau cymysg Cymru. Ymhlith llwyddiannau’r côr mae ennill BBC Choir of the Year yn 2014, y wobr gyntaf yng Ngŵyl Gorawl Derry yn 2018 a’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Côr Cymysg yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Yn ogystal, mae’r côr wedi ennill y categori corau cymysg Côr Cymru ddwywaith, a chystadleuaeth côr cymysg yn yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith. Hefyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019 coronwyd CF1 yn gôr yr ŵyl.

Mae’r côr wedi cael nifer o gyfleoedd cyffrous eraill fel gig Take That a Lulu yn 2019, canu yn agoriad swyddogol Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 a chanu yn Stadiwm Principality cyn gemau rhyngwladol, gan gynnwys Cwpan Rygbi’r Byd 2015. Yn 2016, cafodd y côr wahoddiad i ganu yng Nghynhadledd Mizoram Presbyterian Church yn Mizoram yn yr India. Mae’r côr hefyd wedi teithio i’r Unol Daleithiau, Canada, Gwlad Pwyl, Yr Almaen, Yr Eidal ac Iwerddon, heb anghofio ledled Cymru a Lloegr.

Mae CF1 wedi rhyddhau dwy CD hyd yn hyn ‘Côr Aelwyd CF1’ (2006) a ‘Con Spirito’ (2011).

Eilir Owen Griffiths

Cyfarwyddwr Cerdd

Eilir Owen Griffiths yw un o arweinyddion corawl mwyaf deinamig Cymru. Mae ganddo dros bymtheg mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Cerdd a chyfansoddwr ac mae wedi arwain Côr CF1 ers ei sefydlu nôl yn 2002.

Eilir hefyd yw Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei waith fel cyfansoddwr gan gynnwys Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008.

Mae Eilir wedi arwain nifer o gorau gwahanol ar hyd y blynyddoedd, a bu’n Gyfarwyddwr Cerdd i Gôr Godre’r Garth rhwng 2004 a 2014. Llwyddodd y côr i ennill categori’r Côr Cymysg bum gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol dan ei arweinyddiaeth. Eilir oedd hefyd un o Gyfarwyddwyr Cerdd cyntaf Côr y Gleision (gyda Delyth Medi) a sefydlwyd fel rhan o’r gyfres deledu Codi Canu nôl yn 2006 ar S4C a bu’n arwain Côr y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin sef enillwyr y categori Côr Ieuenctid yn Côr Cymru 2007 ac Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi.

Mae Eilir yn gweithio fel Cydlynydd Cwrs BA Canolfan Berfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac fel Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Y Drindod Dewi Sant.

Mae Eilir hefyd wedi derbyn nifer o wahoddiadau i deithio fel rhan o’i waith fel arweinydd i’r Iwerddon, Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Ffrainc, India ac Unol Daleithiau America ac mae’n cyfrannu’n gyson i raglenni teledu a radio yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Rhiannon Pritchard

Is-arweinydd & Cyfeilydd

Graddiodd Rhiannon o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2009 ar ôl astudio dan diwtoriaeth Richard McMahon.

Mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith fel cyfeilydd a répétiteur yn cynnwys Gwobr Seligman Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Gwobr Mansel Thomas Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, gwobr cyfeilio y Coleg, a Gwobr Goffa Eleri Evans sef y wobr cyfeilio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Derbyniwyd Rhiannon mewn i gynllun cerddorol y diweddar Yehudi Menuhin, Live Music Now yn 2009 ac mae hi’n perfformio ar hyd a lled y wlad mewn perfformiadau a gweithdai.

Mae ei swyddi cyfeilio eraill yn cynnwys: Opera Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Academi Rhyngwladol Lleisiol Cymru (the Wales International Academy of Voice) Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Cystadleuaeth Cerddoriaeth yn y Fro (The Music in the Vale Competition) a Gwobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Mae hi hefyd yn gweithio’n galed fel athrawes biano a hyfforddwr lleisiol.

Yn ogystal â’i gwaith gyda CF1 mae hi’n gyfeilydd i Gôr y Gleision, City Voices a Chôr Meibion Clwb Rygbi Treforys. Mae ei gwaith corawl wedi mynd â hi i Dde’r Affrig, America, Canada ac Ewrop.

Richard Vaughan

Cyfeilydd

Yn wreiddiol o Rydaman, Sir Gaerfyrddin, ac yn raddedig o’r Royal Holloway, Prifysgol Llundain, mae Richard yn bianydd o fri ac wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddwywaith â’r wobr anrhydeddus ‘Pianydd yr Wyl’. Mae wedi perfformio ledled Ewrop, gan gynnwys cartref Llysgenad Prydain â’r ‘Eglwys yn y Graig’ yn Helsinki.

Yn ogystal â’i gwaith gyda CF1 mae Richard yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr y Gleision ac mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr cerdd ac athro llais gydag ysgol ‘Big Talent’ yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae wedi bod yn athro piano ers yn 15 oed ac yn parhau i ddysgu’n breifat.

Mae Richard wedi gweithio fel Ymchwilydd a Chynorthwy-ydd Cerddorol ar nifer o raglenni teledu, wedi ymddangos yn y cyfresi ‘Pam Fi, Duw?’, ‘Max-N’ a ‘2 Dŷ a Ni’ fel actor. Mae’n drosleisydd cyson ar S4C ac fel cyfansoddwr mae wedi ysgrifennu’r gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad S4C o ‘Herio’r Ddraig’ a’r ffilm diweddar ‘Pianissimo’. Mae ei gyfansoddiadau a threfniannau corawl yn cynyddu mewn galw gan gorau o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Lluniau & Fideos

Ymuno â ni

Mae croeso i aelodau newydd ymuno unrhyw bryd! Nid oes angen clyweliad ar gyfer ymuno, ond mae angen i ti fod yn mwynhau canu!

Drwy gydol y flwyddyn, mae CF1 yn cymryd rhan mewn nifer o gyngherddau, cystadlaethau a gwyliau o bob math! Yn ogystal a’r canu, mae’r côr yn gymdeithasol iawn ac yn trefnu partïon haf, Nadolig, a nosweithiau allan yn ystod y flwyddyn.

Mae ymarferion yn cael eu cynnal bob nos Lun am 7yh yn:

Eglwys y Crwys
77 Heol Richmond
Cathays
Caerdydd
CF24 3AR

Os hoffet gael rhagor o wybodaeth am ymuno gyda CF1, yna gyrra e-bost i [email protected]