
Cystadleuaeth Gyfansoddi 2020
Rydym ni fel côr yn eiddgar i ddychwelyd i’r ystafell ymarfer. Mewn ymgais i gefnogi diwydiant creadigol Cymru yn ystod y cyfnod yma, mae Côr CF1 wedi penderfynu gosod her i gyfansoddwyr Cymru gyfansoddi darn corawl newydd i’w berfformio yn 2021.
Mae’r côr yn awyddus i annog unrhyw gyfansoddwr o Gymru i ysgrifennu darn fyddai’n addas i’w berfformio yn y neuadd gyngerdd ac ar lwyfan cystadleuaeth.
Rydym yn falch iawn bod ffrind i’r côr, y cyfansoddwr, yr Athro Paul Mealor, yn ymuno â thîm cerddorol y côr, Eilir Owen Griffiths, Richard Vaughan a Rhiannon Pritchard, i feirniadu’r gystadleuaeth.
Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael gwobr ariannol o £600 (yn rhoddedig gan y côr a Chwmni Cyhoeddi Curiad), bydd côr CF1 yn perfformio’r gwaith a bydd Curiad yn cyhoeddi’r gwaith buddugol. Yn ogystal â dewis enillydd, mae’n bosib y byddwn yn cynnig perfformio rhai o’r darnau sy’n dod yn agos at y brig.
Os oes angen rhagor wybodaeth, neu os ydych yn cael trafferth defnyddio’r ffurflen gystadlu cysylltwch â [email protected].
Pob lwc!